Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cenric Clement-Evans ac ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor yn ystod Rhagfyr 2013, ar ôl casglu 448 o lofnodion ar bapur.
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i sicrhau bod rhieni a gwarcheidwaid plant yng Nghymru yn gallu cael mynediad rhwydd at wybodaeth am bresenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion a beth a wneir i’w reoli.
O ystyried y risg i iechyd sy’n gysylltiedig â phresenoldeb asbestos mewn adeiladau cyhoeddus, credwn fod gan rieni a gwarcheidwaid yng Nghymru yr hawl i:
· gael gwybod os oes asbestos yn ysgolion eu plant;
· cael gwybod, os oes asbestos yn yr ysgol, ei fod yn cael ei reoli yn unol â Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012;
· cael mynediad rhwydd at y wybodaeth honno ar-lein.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol Caerdydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru